Arlwyo Nant Catering – yn eich hardal chi!
Arlwyo Nant Catering ydi’r fenter newydd i ddau frawd Gwyn ac Elwy Williams i ddod a Cig Oen Cymru o’r safon gorau i’ch gweithgareddau lleol chi. O’r ymwelwyr dyddiol, y rhai sydd draw am benwythnos, cyfarfodydd, ffeiriau ac unrhyw ddigwyddiad yn eich hardal. Gall y gegin symudol yma demptio a chyffroi unrhyw baled!
Rydym wedi ymchwylio i anghenion yr ymwelwyr, ac yr un ydi’r hen stori, meant wedi cael digon ar safon y bwyd sydd ar gael iddynt.
Beth sy’n ein gwneud ni yn wahanol?
Wel, gallwn gynnig byrgers cig oen danteithiol mewn nifer o flasau sydd yn cael ei gyflwyno mewn bap draddodiadol o fecws lleol wed ei lwytho gyda salad a saws. Bydd ein bwyd yn siwr o’ch hudo yn ol am frecwast, cinio neu de, a bydd croeso cynnes yn eich disgwyl bob amser.
Mae’r holl wyn yn cael eu mhagu ar ar ein fferm Ty Nant Isaf, sydd yn fferm deuleuol ac wedi bod yn rhan o gymdeithas Pandy Tudur ers can mlynedd. Mewn ardal o harddwch naturiol yng Ngogledd Cymru, ble mae cefnlen godidog Eryri ar un llaw a thraethau yr arfordir ar y llaw arall wedi ein ysbrydoli yn aruthrol i roi Pandy Tudur ar y map!
Rydym yn credo yn gryf mewn magu ein hanifeiliaid mor naturiol a phosib. Mae ein defaid ac ein gwartheg yn rhydd i grwydro ac i fwydo ar y tir glas, ffrwythlon – hyn sydd yn rhoi y blas maethlon i’r cig.
Mae ein cig yn cael ei ddarparu yn lleol gan ladd – dy anibynnol yng Ngogledd Cymru, ble mae’r cig yn cael ei aeddfedu mewn dull traddodiadol er mwyn rhoi y blas unigryw. Dim ond ar yr adeg arbennig yno mae’r cigydd proffesiynnol yn ei baratoi, ac yno y bydd yn barod i’w fwynhau gan ein cwsmeriaiad o’r gegin symudol.
Hoffwn i chi gymryd y cyfle hwn i gynnig rhywbeth tra gwahanol i’ch hymwelwyr.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch neu ebostiwch ar 01 745 860647 neu
07799 713170 neu gwyn @tyisa.plus.com
Arlwyo Nant Catering . Copyright 2007 Website Grants.com Design and hosted by Tourist Information Centres